Minutes Cross Party Autism Group / Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

12:00-13:15 May 14 Mai 2014

National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

 

1. WELCOME / CROESO

Croesawodd Mark Isherwood, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth, bawb i ail gyfarfod 2014. Roedd Aled Roberts AM / AC hefyd yn bresennol yn y cyfarfod ynghyd â chynrychiolydd o swyddfa Simon Thomas AM / AC.

 

2. MATTERS ARISING / MATERION YN CODI

 Nid oedd materion yn deillio o’r cyfarfod diwethaf a chytunwyd ar y cofnodion.

 

3. PRESENTATIONS / CYFLWYNIADAU

 Clywodd y Grŵp Trawsbleidiol yn gyntaf gan Rhys Jenkins, bachgen 22 mlwydd oed o Gastell-nedd sydd wedi graddio yn y gyfraith, ond sydd ar hyn o bryd yn byw yng Nghaerdydd. Rhoddodd Rhys gyfrif personol o’i brofiad ef o fod ag awtistiaeth. Amlygodd Rhys yr anawsterau’n ymwneud â chyfathrebu a disgrifiodd sut mae awtistiaeth yn helaethu cymhlethdodau penodol sy’n bodoli eisoes o fewn y person hwnnw.

 

 Rhoddodd Louise Albert o NAS Cymru drosolwg o’r gwasanaethau y mae’n eu darparu a’r dulliau y mae gwasanaethau’n eu defnyddio i gefnogi pobl ag awtistiaeth yng  Nghymru  .

 

 Disgrifiodd Louise werth darparu ‘cymorth symud ymlaen’ sy’n edrych ar holl anghenion pobl fel eu bod yn cael y cymorth cywir, sy’n eu galluogi i symud ymlaen a dod yn fwy annibynnol. Amlinellodd hefyd sut y gall technoleg gynorthwyol a’r amgylchedd mewnol ei hun chwarae rhan mewn atal unigolion rhag bod ag angen darpariaeth acíwt.

 

 Amlinellodd Louise hefyd y dulliau y mae NAS Cymru yn eu defnyddio a sut mae cymorth ymddygiadol cadarnhaol a dulliau sy’n canolbwyntio ar unigolion yn ategu ei waith. Roedd hyfforddiant parhaus i staff a monitro ac asesu’r unigolion y maent yn eu cefnogi yn barhaus hefyd yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Roedd y rhain yn cynnwys gwell trefniadau pontio, gostyngiad mewn derbyniadau i ysbytai a’r defnydd o wasanaethau, gostyngiad mewn costau a phobl ag awtistiaeth yn gallu byw yn annibynnol yn eu cymunedau.

 

 Yn olaf, rhoddodd Lisa Rapado o HOOSUP [Hands off our specialist units Powys] y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad Anghenion Dysgu Ychwanegol ym Mhowys. Roedd y cyngor wedi derbyn dros 700 o ymatebion i’w gynnig i gau unedau arbenigol ym Mhowys. Eglurodd fod cabinet Cyngor Sir Powys wedi cymeradwyo ar wahân strategaeth Anghenion Addysgol Arbennig newydd ar gyfer yr ardal, er nad oedd canlyniadau’r ymgynghoriad wedi cael eu hasesu.

 

4. ISSUES ARISING / MATERION YN CODI

 Disgrifiodd Liz Darcy sut yr oedd menywod a merched â syndrom Asperger yn arbennig yn dioddef ar lefel warthus oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn ddeallus ond nad oedd effaith eu cyflwr yn cael ei gydnabod. Dywedodd nad oedd athrawon yn aml yn ymwybodol o awtistiaeth fel cyflwr a gofynnodd pam nad oedd NAS Cymru yn ymyrryd ar hyn o bryd drwy fynd i mewn i ysgolion i godi ymwybyddiaeth. Derbyniodd Louise Albert fod diffyg cydnabyddiaeth o awtistiaeth ymhlith menywod a merched yn broblem, ond nad oedd unrhyw awydd ar ysgolion yn aml i dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth, ac nid oes unrhyw gyllideb ar ei gyfer.

 

Cododd  Phil Fennell o  Brifysgol Caerdydd  y posibilrwydd y gallai fod diffygion cyfreithiol yn y ffordd yr oedd Powys wedi ymgynghori ar ei gynigion i gau’r unedau arbenigol ac awgrymodd fod Lisa Rapado yn cysylltu â chydweithiwr iddo i gael cyngor. Codwyd cwestiynau hefyd am Bowys yn mabwysiadu strategaeth newydd pan mae’r Llywodraeth ar fin cyhoeddi ei Bapur Gwyn ar ddiwygio ADY ledled  Cymru .

 

5. ACTIONS / PWYNTIAU GWEITHREDU

 

 

6. NEXT MEETING / CYFARFOD NESAF

 Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Neuadd Powis,  Prifysgol  Bangor  rhwng 10:30 a 12: 30 ar 10 Medi 2014. Bydd y cyfarfod ar ôl hynny yn ôl yng Nghynulliad Cenedlaethol  Cymru  ar 19 Tachwedd 2014 rhwng 12:00 a 13: 15.